Plaid Cymru – rhaid i’r Gyllideb leihau’r rhaniad cyfoeth er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau

Gallai diwygio Treth ar Enillion Cyfalaf greu hyd at £15.2 biliwn yn flynyddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Cyn Cyllideb Wanwyn Llywodraeth y DU ar ddydd Mercher 6 Mawrth, galwodd Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys heddiw (dydd Sul 3 Mawrth) am ddiwygiad treth gynhwysfawr ar gyfer ariannu buddsoddiad mewn cyhoeddus a seilwaith.

Dywedodd Mr Lake dylai’r “argyfwng cymdeithasol presennol sy’n wynebu ein cymunedau orfodi ailfeddwl sylfaenol o'n dull o drethu.”

Nododd bod llawer o gyfoeth y DU yn parhau heb fod yn cael ei drethu, gyda phobl yn elwa ar hyn o bryd o fuddsoddiadau sy’n cael eu trethu ar gyfraddau is na’r rhai sy’n ennill trwy weithio. Dywedodd Plaid Cymru y gallai cyfartalu Treth Enillion Cyfalaf gyda Threth Incwm gynhyrchu hyd at £15.2 biliwn yn flynyddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Anogodd AS Ceredigion y Canghellor i ddefnyddio'r Gyllideb i ganolbwyntio ar "yr angen brys am fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith", y gellid ei gyflawni drwy ddiwygio'r system drethi. Mae cyfoeth a enillir trwy fuddsoddiad yn cael ei drethu ar gyfradd llawer is nag incwm. Er enghraifft, enillodd Rishi Sunak £140,000 fel Prif Weinidog y llynedd, sy'n destun treth incwm. Yn ogystal, derbyniodd bron i £1.8 miliwn o'i gyfran mewn cronfa fuddsoddi. Trethwyd yr enillion cyfalaf hyn ar 20%, llawer is na'r gyfradd treth incwm o 45% y byddai wedi'i thalu pe bai'r swm hwnnw wedi cael ei drin fel incwm yn system dreth y DU.

 

Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

"Cymru sydd â'r lefelau uchaf o dlodi yn y DU, heb unrhyw welliant sylweddol yn sefyllfa pobl dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd wedi codi, ac mae canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn parhau'n uchel.

"O fewn y cyd-destun arswydus yma y bydd y Canghellor yn cyflwyno ei gyllideb. Er bod y drafodaeth gyhoeddus wedi canolbwyntio ar doriadau treth, camgymeriad fyddai esgeuluso'r angen brys am fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith.

"Gallai diwygio trethi sylfaenol helpu i ariannu buddsoddiad o'r fath. Efallai nad yw'n teimlo felly, ond mae’r DU yn parhau i fod y chweched economi fwyaf yn y byd.

“Ar hyn o bryd, mae incwm a enillir drwy weithio yn cael ei drethu ar gyfradd llawer uwch nag incwm sy'n deillio o fuddsoddiadau. Dylai'r Canghellor ystyried a yw'r anghysondeb hwn yn briodol o ystyried y straen sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn wir a allwn ei fforddio.

"Dylai'r argyfwng cymdeithasol presennol y mae ein cymunedau yn ei wynebu gorfodi ailfeddwl sylfaenol o'n dull o drethu. Dylai ein system dreth ganolbwyntio ar gefnogi gweithgarwch economaidd a lleihau anghydraddoldeb, gan sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i dalu costau gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r system dreth bresennol yn methu ar y tri phwynt."


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-03-04 16:36:44 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.