Band Eang Cyflym yng Ngheredigion

possessed-photography-uWaRsN-CqY0-unsplash.jpg

Mae gwella cysylltedd band eang a signal ffôn yn ein cymunedau gwledig yn flaenoriaeth i Ben Lake ac Elin Jones ac mae'r ddau wedi bod yn ymgyrchu'n galed ac yn gyson i sicrhau gwell cysylltedd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn y sir. Maent yn codi'r mater yn rheolaidd yn y Senedd yn San Steffan ac yng Nghaerdydd ac yn cynnal cyfarfodydd cyson gydag uwchswyddogion Openreach.

Cyflymu Cymru

Mae Rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru yn dod i yn 2022 ac rydym wedi cael sicrwydd gan Openreach y bydd yr holl eiddo sydd heb eu cysylltu ond sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb presennol yn cael eu cysylltu â Ffibr i’r Eiddo (FTTP) erbyn mis Gorffennaf 2022.

rural_openreach_2.jpg

Ewch i wefan Openreach i weld os yw’ch eiddo wedi'i gynnwys yn y rhaglen: https://www.openreach.com/fibre-broadband

Cronfa Uwchraddio Band Eang

Mae hyrwyddo marchnad gystadleuol ar gyfer seilwaith gallu Gigabit yn rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr, ac mae'n golygu annog cwmnïau eraill i osod seilwaith mewn cystadleuaeth ag Openreach. I'r graddau hynny, yr ydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf o ganlyniad i gynllun peilot Cronfa Uwchraddio Band Eang (BUF) Llywodraeth y DU a gynhaliwyd yn hydref 2020.

Roedd y BUF yn ei hanfod yn amrywiad ar gynllun Talebau Gigabit Gwledig (Gigabit Voucher Scheme) presennol Llywodraeth y DU, gan gynnig talebau i helpu cartrefi a busnesau i gael gwasanaeth band eang cyflym iawn wedi'i osod. O ganlyniad i'r cynllun peilot hwn, mynegwyd diddordeb gan sawl cwmni prefait (WeFibre a Broadway Partners yn bennaf) mewn datblygu cynlluniau uwchraddio band eang mewn sawl cymuned yng Ngheredigion.

WeFibre

Ar hyn o bryd mae WeFibre wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer 10 prosiect ledled Ceredigion, gan gynnwys yr ardaloedd canlynol:

  • Llanrhystud (yn cynnwys Llan-non)
  • Cwrtnewydd (yn cynnwys Talgarreg, Gorsgoch, Cribyn, Bwlchyfadfa)
  • Llanybydder (yn cynnwys Alltyblaca, Llanwnnen, Drefach, Llanwenog)
  • Tregaron
  • Pontrhydfendigaid
  • Cross Inn (yn cynnwys Pennant and Bethania)
  • Tan-y-groes (yn cynnwys Blaenporth a Sarnau)

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a allech elwa o brosiect WeFibre, cysylltwch â Neil Davies: [email protected]

Broadway Partners

Mae Broadway hefyd wedi bod yn gweithio ar sawl prosiect ledled Ceredigion, yn bennaf yng ngogledd y sir gan gynnwys yn wardiau Ceulan-y-maes-mawr, Melindwr, Borth, Trefeurig, Tirmynach, Ystwyth a Llanrhystud.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://broadwaypartners.co.uk/

Rhaglen Partneriaeth Ffibr Cymunedol Openreach (Community Fibre Partnership)

Er bod yna rai Cynlluniau CFP ar waith yng Ngheredigion, yn cynnwys yn Aberteifi a Bow Street, mae Openreach wedi’n hysbysu o’r isod:

At the moment our schemes are on hold whilst we review our scheme pipeline. We've had an unprecedented volume of FCP registrations, and we're reviewing those in line with our network build capacity, We're sorry we can't provide any definitive updates at this time, but should be in a position to do so in February.”

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.openreach.com/fibre-broadband/fibre-community-partnership

Mydroilyn

WhatsApp_Image_2022-01-07_at_14.53.52.jpeg

Mae cymuned Mydroilyn a'r ardaloedd cyfagos wedi llwyddo i gael Seilwaith Ffibr Cyflym i'r Eiddo (FTTP) ar gyfer dalgylch cyfan Mydroilyn - cyfanswm o tua 237 o gartrefi. Mae'r gwaith bron a’i gwblhau a dylai fod ar gael i'r holl breswylwyr yn fuan gyda nifer o drigolion eisoes wedi'u cysylltu.

Mynediad Diwifr Sefydlog

Os nad oes cynlluniau ar waith i uwchraddio eich cysylltiad band eang presennol, efallai y byddai'n werth edrych ar opsiynau eraill fel Mynediad Diwifr Sefydlog (FWA).

Mae darparwyr Mynediad Diwifr Sefydlog (FWA) (ISPs Di-wifr - WISPs) yn defnyddio amleddau penodol o'r sbectrwm radio i drosglwyddo eu signalau drwy'r aer (tonfeddi radio) ac mewn ffordd debyg i'r ffordd y mae rhwydweithiau ffonau symudol yn gweithredu, gan ddileu gwifrau. Mae'r rhan fwyaf o ISPs diwifr ond yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig iawn mewn ardaloedd penodol/arbenigol (e.e. pentrefi gwledig), er bod eu pris a'u perfformiad yn dueddol o fod yn dda.

Mae gan Voneus brosiect FWA ar waith ar gyfer de Ceredigion. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag arweinydd y Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned ar gyfer Voneus yng Nghymru: [email protected] / 07495 310657

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i wella eich cysylltiad band eang drwy gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/access-broadband-cymru-grant-scheme

Rhaglen Rhannu Rhwydwaith Gwledig (Shared Rural Network Programme)

Mae Ben Lake AS yn un o grŵp o 75 o ASau trawsbleidiol sy'n cynrychioli etholaethau gwledig sydd wedi bod yn pwyso am well cysylltedd ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig ledled y DU. Mae'n ymddangos bod ein gwaith caled yn talu ffordd drwy ddatblygiad y cynllun Rhannu Rhwydwaith Gwledig, rhaglen sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan bedwar cwmni rhwydwaith symudol y DU a Llywodraeth y DU. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaeth 4G i 95% o'r DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Rannu Rhwydwaith Gwledig yma: https://srn.org.uk/

Rydym wedi derbyn cadarnhad y mis yma y bydd dau fast rhwydwaith newydd yn cael eu hadeiladu yng ngogledd Ceredigion fel rhan o'r rhaglen Rhannu Rhwydwaith Gwledig a ddylai, gobeithio, wella signal symudol yn sylweddol ar draws ardal eithaf eang. Y safle arfaethedig ar gyfer y ddau fast yw SY24 5HL (Bont-goch) a SY25 6JW (Tregaron). Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar gyfer y mastiau hyn ddechrau yn ddiweddarach eleni.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgyrchoedd 2022-01-28 16:11:40 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.