Arddangosfa welingtons yn y Senedd

 


Martin Griffiths, Ffosgrafel Uchaf ac Is-gadeirydd NFU Cymru Ceredigion gydag Elin Jones AS ac aelodau eraill o NFU Cymru ar risiau’r Senedd.

Heddiw bu i ffermwyr Cymru greu arddangosfa ar risiau’r Senedd drwy osod 5,500 o barau o welingtons allan, yn cynrychioli’r swyddi rhagwelir bydd y diwydiant ffermio’n colli drwy gynnig Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Bu i Elin fynychu’r arddangosfa a sgwrsio gyda’r trefnwyr ddaeth a’r esgidiau glaw i’r Senedd ar noswyl cau’r ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun.

Mae Plaid Cymru yn gefnogol iawn o’r angen i weld newidiadau i’r Cynllun mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, ac wedi cynnig syniadau pendant i’r Llywodraeth am newidiadau byddai’n creu gwell amodau i’n ffermwyr.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Nid ar chwarae bach mae mynd ati i gasglu 5,500 o welingtons, ond mae NFU Cymru wedi llwyddo i wneud hyn. Mae’r darlun maent wedi creu heddi yn anfon neges bŵerus a chryf i Lywodraeth Cymru fod angen newid y cynllun, a chymryd adborth i’r ymgynghoriad o ddifrif. Mae cefnogi ein ffermwyr yn hanfodol, hebddon nhw fyddwn ni nid yn unig yn peryglu ein cadwyn fwyd, ond byddwn yn colli asgwrn cefn ein diwylliant, iaith a bywyd cefn gwlad Cymru.”  


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2024-03-06 15:55:34 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.